Gør som tusindvis af andre bogelskere
Tilmeld dig nyhedsbrevet og få gode tilbud og inspiration til din næste læsning.
Ved tilmelding accepterer du vores persondatapolitik.Du kan altid afmelde dig igen.
Mae'r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a'r rhai sydd a'u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae'n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle'r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a'r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a'r cyfieithu lletchwith. Mae'n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o'r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae'n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae'n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o'r gwaith, ac mae'r cyngor a'r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd a phrofiad yr awdur o'r byd cyfieithu proffesiynol.
Tilmeld dig nyhedsbrevet og få gode tilbud og inspiration til din næste læsning.
Ved tilmelding accepterer du vores persondatapolitik.