Gør som tusindvis af andre bogelskere
Tilmeld dig nyhedsbrevet og få gode tilbud og inspiration til din næste læsning.
Ved tilmelding accepterer du vores persondatapolitik.Du kan altid afmelde dig igen.
Mae'r gyfres Gweithgareddau Ategol yn cynnwys gweithgareddau llun-gopïadwy i'w defnyddio gyda dysgwyr araf neu ddisgyblion gydag anawsterau dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r llyfrau'n cyflwyno un cysyniad ar bob taflen, gan ddefnyddio iaith syml a llinellau du clir ar luniau, sy'n eu gwneud yn hawdd i'w darllen a'i deall.Mae Deall Pethau Byw yn cynnwys 42 o daflenni llun-gopïadwy i helpu disgyblion i ddeall prosesau bywyd a phethau byw. Mae'r taflenni'n atgyfnerthu dulliau ymchwil gwyddonol drwy fynnu bod disgyblion yn cynllunio, gwneud gweithgareddau ymarferol, ystyried tystiolaeth, a chyflwyno syniadau a chasgliadau. Mae'r taflenni'n canolbwyntio ar brosesau bywyd sy'n gyffredin i bopeth byw, pobl, ac anifeiliaid eraill a phlanhigion gwyrdd, yn ogystal â sut mae pethau byw yn cysylltu â'u hamgylchedd.
Tilmeld dig nyhedsbrevet og få gode tilbud og inspiration til din næste læsning.
Ved tilmelding accepterer du vores persondatapolitik.